MAE ANGEN I LYWODRAETH CYMRU WEITHREDU I ATAL TRYCHINEB GRENFELL ARALL
Rhaid dysgu gwersi o bob trychineb. Dinistrwyd 72 o fywydau mewn un bloc o fflatiau oherwydd tân yn Llundain yn 2017 ac un flwyddyn yn ddiweddarach, collwyd o leiaf 64 o fywydaui mewn tân yng Nghanolfan siopa yn Kemerovo, Siberia.
Dwy wlad miloedd o filltiroedd ar wahân ac eto mae’r ddwy drychineb yn rhannu’r un nam marwol, sef esgelustod troseddol o ran diogelwch tân.
Yn Rwsia, y prif achosion oedd system larwm tân diffygiol ac allanfeydd tân wedi’u cloi, tra yn Llundain arweiniodd waliau yn cynnwys insiwleiddio marwol ynghyd â system rheoli mwg a lanwodd y llwybrau dianc gyda mwg at golli bywydau yn drasig.
Lledaenodd y tannau gyda ffyrnigrwydd mor gyflym, ac eto mae systemau cyfiawnder ar draws y byd yn boenus o araf, yn enwedig mewn achosion lle mae sawl asiantaeth dan sylw ac mae cyfrifoldeb yn cael ei symud o un i’r llall. Ychwanegwch y pandemig Covid at hyn ac mae’n cael effaith ar gyflymdra’r achosion llys.
Ond y cwestiwn ydy, a fydd angen gweld trychineb arall cyn i Lywodraeth Cymru weithredu i gael gwared ar y cladin marwol o gartrefi mewn blociau uchel o fflatiau?
Heb gymorth ariannol gan y Senedd, mae perchnogion fflatiau sydd yn byw mewn adeiladau peryglus yn wynebu biliau enfawr am wella diogelwch tân.
Fe wnaeth Robert Jenrick, Ysgrifennydd Tai’r DU addo £3.5 biliwn i dalu costau cael gwared ar gladin llosgadwy o flociau uchel o fflatiau, ac eto dydy hi ddim yn glir faint yn union o arian fydd y Senedd yn ei dderbyn. Ychwanegwch wedyn y mater o’r rheol 18 metr; efallai na fydd unrhyw un mewn blociau fflatiau is yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol.
Mae angen i’r Senedd weithredu i amddiffyn y perchnogion yma allai wynebu biliau o tua £58,000 i dalu am gael gwared ar y cladin peryglus.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “Rydym yn parhau i ddatgan na ddylai lesddeiliaid orfod talu i gywiro’r problemau yma.”
Dywedodd bod y Senedd wedi ymrwymo i gefnogi lesddeiliaid a sicrhau bod adeiladu yn cael eu diogelu gyda £10m wedi’i fuddsoddi eleni a £32m ychwanegol am y flwyddyn ariannol nesaf.
Yn yr Ymchwiliad Grenfell, sydd yn parhau, dywedodd Claude Schmidt, llywydd y cwmni o Ffrainc, Arconic a wnaeth y cladin llosgadwy ei fod wedi dysgu am safon diogelwch tân allweddol y DU ar ôl y drychineb ac nad oedd yn ‘flaenoriaeth’ ganddo i ddeall profion diogelwch tân.
Honnodd rheolwr gwerthiant DU, Vince Meakins hefyd yr wythnos yma nad oedd yn ‘ymwybodol’ bod ei gydweithwyr Ffrengig yn Arconic wedi cael cyfrwyddyd i beidio â defnyddio’r cladin ar sail diogelwch flwyddyn yn unig cyn y trychineb..
Felly pam bod y cladin llosgadwy wedi cael ei ddefnyddio?
Mewn ateb byr, roedd yn rhatach.
Mae’n frawychus bod cymaint o eiddo a phobl yng Nghymru mewn perygl oherwydd cladin anniogel.
Nododd y cyn ymladdwr tân Tony Sullivan, a aeth i Grenfell fel criw tân ychwanegol, un or llu o broblemau a wynebir wrth geisio datrys y broblem o flociau fflat uchel anniogel.
“Rydych chi’n siarad am gannoedd o adeiladau, ar draws llu o gynghoraiu a llywodraethau dros 20 mlynedd. Mae’n broblem systematig gyda rheoliadau adeiladu, deddfwriaeth diogelwch tân, profi deunyddiau, gwaith cynnal a chadw blociau fflatiau ac asiantaethau gorfodi.”
Dyma un o’r materion mwyaf trawiadol pan fo sawl asiantaeth ynghlwm â’r mater; mae unrhyw weithrediadau cyfreithiol yn hynod o gymhleth ac maen nhw’n gallu cymryd blynyddoedd lawer i’w datrys. Mae Plaid Cymru yn cefnogi gosod treth ar hap ar ddatblygwyr eiddo i sicrhau bod eiddo yn ddiogel a sicrhau nad ydy pobl wedi cael eu dal mewn eiddo na allan nhw eu gwerthu.
Mae bron i bedair mlynedd ers y tân yn Nhŵr Grenfell a gyda diogelwch cymaint o bobl yn byw mewn blociau fflatiau uchel o bryder mawr yng Nghymru, mae pob dydd o drafodaethau ac oedi sydd yn mynd heibio yn un diwrnod yn ormod.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter