Mae darn o dir llwm o goncrid a chwyn gerllaw Rhodfa’r Gorllewin A48 a gorsaf drennau Parc Waun-gron. Mae’n anodd dirnad bod miliwn o bunnoedd, ac yna £680,000 pellach o arian y trethdalwyr eisoes wedi ei wario ar y diffeithdir yma ers 2014.
Cafodd y miliwn cyntaf ei wario ar uwchraddio’r ganolfan ailgylchu oedd ar y safle cyn i hwnnw gau yn ddisymwth. Defnyddiwyd yr ail swm o arian ar ddatblygu’r safle gyda chynlluniau uchelgeisiol i adeiladu gorsaf fysus a bloc uchel o 50 o fflatiau cyngor. Y bwriad ydy trawsnewid y safle yn gyfnewidfa trafnidiaeth i gysylltu llwybrau metro a bysus ar draws y ddinas. Mae’r metro ei hun yn brosiect gwerth miliynau o bunnoedd.
Ac eto dydy gwaith ddim wedi cychwyn ar y safle, sydd yn parhau’n ddiffeithdir ers i Lywodraeth Cymru gau’r ganolfan ailgylchu dros chwe mlynedd yn ôl. Mae oedi wedi bod o ran dyddiad cwblhau’r orsaf fysus tan o leiaf 2023; mae Cyngor Caerdydd yn honni bod y safle wedi’i halogi gydag olew ac mae angen cyfleuster arbennig i gael gwared ohono, a dyma sydd yn arwain at oedi.
Wrth i’r gofyniad i Gymru ailgylchu rhagor o wastraff nag erioed, roedd cau’r ganolfan ailgylchu yn y lle cyntaf yn destun dadl, heb sôn am y cynlluniau i adeiladu bloc uchel o fflatiau gerllaw cyfnewidfa trafndidiaeth.
Wrth amddiffyn y penderfyniad i adeiladu ar y safle, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:
“Er mwyn gwella trafnidiaeth cyhoeddus, mae angen buddsoddi’n sylweddol ar y rhwydwaith cyfan. Rhan yn unig o ofyniad llawer ehangach i adeiladu’r seilwaith trafnidiaeth y mae Caerdydd ei angen ydy adeiladu’r gyfnewidfa yn Heol Waun-gron, ac mae’r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wireddu hynny.”
Felly, lle mae’r gwaith? Pam ei fod yn parhau yn ddiffeithdir ar ôl buddsoddi cymaint o arian? Mae naw mlynedd ers cau’r ganolfan ailgylchu i’r gwaith gorffenedig arfaethedig yn eithafol ac mae hyn cyn i unrhyw oedi pellach lesteirio cynnydd. Mae’n gwbl ddealladwy bod trigolion yr ardal leol yn anhapus gyda’r sefyllfa.
Ymddengys bod cau Canolfan ailgylchu Waun-gron pan fo’r ddinas angen cyfleuster o’r fath yn gamgymeriad mawr. I genedl fechan, mae Cymru ar y blaen yn ei hymrwymad i ailgylchu, yn bedwerydd orau yn y byd yn 2018. Dim ond yr Almaen, sydd yn ailgylchu 56% o’i gwastraff, Awstria a De Korea sydd â chyfraddau uwch o ailgylchu. Mae Cymru yn ailgylchu 52.2% o wastraff, yn fwy na’r Swisdir werdd, er bod gan y Swisdir y systemau gorau yn y byd; mae cartrefi a busnesau yn gyfrifol am ddiwallu costau unrhyw wastraff na ellir ei ailgylchu.
Os bydd y datblygiad trafnidiaeth a thai yn mynd rhagddo yn Waun-gron, yr unig sicrwydd fydd y cynnydd mewn costau ac fe fydd gwrthwynebiad hefyd yn cynyddu, nid yn unig ymysg trigolion lleol ond ymysg yr holl drethdalwyr a fydd yn cael eu heffeihio gan benderfyniadau gwael Llywodraeth Cymru.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter