Yr Economi Cymru

Dyma farn ein hymgeisydd ar gyfer Gorllewin Caerdydd - Rhys ab Owen:

 

Mae ein gwleidyddion yn cydnabod y bydd economïau Cymru a’r DU yn cychwyn ar gyfnod o ddirwasgiad. Y cwestiwn allweddol yw a allwn ni osgoi cyfnod hir o ddirwasgiad?

Effeithiwyd yn anghymesur ar Gymru yn y gorffennol. Yn ystod y Dirwasgiad Mawr yn y 1930au, collodd Cymru bron i 400,000 o bobl oherwydd ymfudo gyda chymunedau Cymru yn para cenhedlaeth fwy neu lai mewn lleoedd fel Slough, Luton a Rhydychen. Mae’r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles MS, sydd â’r dasg o gynllunio ar gyfer adferiad Cymru o’r pandemig eisoes wedi rhagweld ‘y gallai effaith y firws fod yn ddyfnach ac yn fwy dwys yma (Cymru) nag mewn mannau eraill.’

 

Yn wahanol i Lywodraeth y DU, mae pwerau benthyca a threthi Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig iawn. Bydd peidio codi trethi busnes yn 2020-21 ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a manwerthu sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu lai, yn effeithio ar yr £1 biliwn y flwyddyn y mae Llywodraeth Cymru fel arfer yn ei godi o drethi busnes. Yn yr un modd, oherwydd gostyngiad mewn CMC bydd colled refeniw o dreth incwm.

 

Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, roedd cyfradd treth incwm Cymru i fod i dyfu o refeniw o £ 2.1 biliwn yn 2019-20 i £2.5 biliwn yn 2023-24. Ac eto, gyda CMC i lawr 13%, bydd treth incwm yn disgyn tua'r un ganran gan gostio £300 miliwn. Mae'n debygol hefyd y bydd derbyniadau treth Cymru yn gostwng yn gymesur yn fwy nag yn Lloegr.

 

 

Bydd y cwymp yn y gyfradd busnes a threth incwm yn cael ei ddigolledu'n bennaf trwy gynnydd yn fformiwla Barnett. Mae hyn oherwydd gostyngiad mewn derbyniadau treth yn Lloegr, cyfraddau busnes Lloegr a’r cynnydd yng ngwariant Llywodraeth y DU yn Lloegr ond ni fydd Llywodraeth Cymru yn cael ei digolledu os yw refeniw yng Nghymru yn cael ei daro’n gymharol waeth, fel yr ymddengys sy’n debygol. Ni fydd gwariant cynyddol trwy fformiwla Barnett ychwaith yn ystyried yr angen mwy sy’n Nghymru.

 

Fodd bynnag, ni ellir defnyddio'r ymateb economaidd i Covid-19 fel rheswm dros gyfnod pellach o lymder. Yn dilyn cyfnod o 10 mlynedd o gyni ar ôl yr argyfwng bancio yn 2008, mae ein gwasanaethau cyhoeddus wedi dioddef yn enfawr. Mae'r argyfwng presennol wedi gwaethygu gwendidau blaenorol mewn ysbytai, cartrefi gofal a llysoedd a charchardai. Er mwyn lliniaru effeithiau argyfwng pellach fel Covid-19 yn well, mae angen mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus nid llai.

 

Mae Brexit a Covid-19 hefyd wedi tynnu sylw at wendidau presennol yn yr economi. Bydd ein sefyllfa bresennol yn cyflymu cau llawer o siopau adwerthu, bwytai a chwmnïau cyfreithiol ar y stryd fawr, heb sôn am rai cyflogwyr mawr yng Nghymru. Ym mis Ebrill 2020 gwelwyd gostyngiad o 97% mewn gwerthiannau ceir a'r nifer isaf o geir newydd a gofrestrwyd er 1946. Bydd hyn yn effeithio ar TATA Steel ym Mhort Talbot a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Mae Airbus ym Mrychdyn hefyd wedi cyhoeddi toriadau a bydd pwysau pellach o dan effeithiau deublyg Covid-19 a Brexit.

 

Bydd gorddibyniaeth ar y ffioedd uchel a delir gan fyfyrwyr tramor a mwy o gystadleuaeth i fyfyrwyr o Gymru a Lloegr yn golygu y bydd llawer o brifysgolion hefyd yn ei chael hi'n anodd. Mae ein sefydliadau addysg uwch yn chwarae rhan hanfodol yn eu hardaloedd a'r ardaloedd ehangach. Dylid eu hannog i newid eu model busnes trwy ganolbwyntio ar ddenu mwy o'r myfyrwyr mwyaf disglair o Gymru ac i ddatblygu ymchwil a mentrau sy'n ymwneud â materion Cymru.

 

Am resymau amlwg, ni fydd cefnogaeth i'n prifysgolion a'n busnesau yn dod o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r UE yn bwriadu sefydlu cronfa adfer sylweddol o €1.5 triliwn. Felly yng Nghymru mae angen i ni fod yn rhagweithiol a defnyddio'r holl gryfderau sydd gennym ni. Gan fy mod yn rhan o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, gwelais y gwir fudd o weithio gydag arbenigwyr yn eu meysydd. Mae gennym arbenigwyr ym maes cyllid a busnes ledled y byd sy'n awyddus ac yn barod i gynorthwyo fel y gwelir mewn mentrau fel Cymru Byd-eang. Mae Cronfa Gwydnwch Economaidd Llywodraeth Cymru sy werth £ 500 miliwn yn ddechrau ond mae angen ystyried y cyfnod ar ôl cloi. Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried o ddifrif cefnogi cronfa sy'n cael ei harwain gan arbenigwyr ariannol a busnes. Gallai hyn fod yn rôl estynedig i Fanc Datblygu Cymru, neu hyd yn oed Asiantaeth Ddatblygu newydd sy'n gweithredu hyd braich o Lywodraeth Cymru. Dylai'r gronfa gefnogi gwaith arloesol yn ein prifysgolion a'n busnesau sefydledig sydd â'r potensial i dyfu.

 

Mae angen rhoi gwahaniaethau gwleidyddol i'r naill ochr â chydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Nawr yw'r amser i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus well a glanach a ffurfiau ar ynni adnewyddadwy. Oes, bydd hyn yn costio arian ond mae angen i ni anghofio meddylfryd Theresa May a'r goeden arian hud. Dylai gwariant cyhoeddus ychwanegol gan y ddwy lywodraeth gael ei ariannu trwy gynyddu benthyca yn hytrach na thoriadau gwariant neu godiadau treth. Roedd gan Lywodraeth y DU ddyled o 250% ym 1948 pan sefydlwyd y GIG ac o 150% ym 1959 pan ddatganodd Harold Macmillan ‘nad oeddem erioed wedi’i gael cystal.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.