Yn ystod y pandemig mae gofalwyr di-dâl yng Nghymru wedi arbed £33 miliwn bod dydd i’r Senedd. Mae tua 370,000 o ofalwyr ar draws Cymru ac eto dydy arbed arian i’r Llywodraeth ddim yn rhywbeth i’w ddathlu wrth i ofalwyr ddod i ben eu tennyn. Dydy nifer o’r rhai sydd yn gofalu am berthynas neu bartner ddim yn ymwybodol o’u hawliau cyfreithiol; mae rhai ohonynt yn blant nad ydynt ar hyn o bryd yn mynychu ysgol; dydy nifer o ofalwyr ddim yn gwybod lle i gael cymorth yn enwedig yn ystod pandemig byd-eang pan mae gwasanaethau iechyd dan bwysau a phan fo cefnogaeth wedi diflannu.
Mae’n argyfwng sydd yn dwysáu ac yn un sydd yn aml yn cael ei anwybyddu wrth i feddyliau droi tuag at gyflwyno brechlynnau a dyfodol economi fregus y DU. Dywedodd Prif Weithredwraig yr elusen Gofalwyr Cymru, Helen Walker: “gyda phob diwrnod sydd yn mynd heibio yn ystod y pandemig yma mae gofalwyr yn cael eu gwthio i’r eithaf gan ddarparu hyd yn oed mwy o ofal i’w hanwyliaid gyda chefnogaeth sydd yn gyflym leihau.”
Casglodd Comisiwn Gofal Plaid Cymru dystiolaeth gan gyrff sydd yn cynrychioli cleifion, y sector statudol a’r Trydydd Sector (fel Anabledd Dysgu Cymr) a darganfu bod anghydbwysedd rhwng staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol o ran cyflogau, amodau a pharch. Nod Plaid Cymru ydy mabwysiadu cyngion uchelgeisiol cyn etholiadau’r Senedd eleni ac mae wedi addo y dylai gofal cymdeithasol yng Nghymru fod am ddim os oes ei angen.
Rydym wedi cael ein hannog i gymeradwyo gweithwyr y GIG drwy gydol y pandemig ac eto ymddengys bod gweithwyr gofal, yn enwedig y rhai nad ydynt yn cael eu talu na’u gweld, wedi cael eu hanghofio. Mae rôl y GIG yn amlwg ac mae’n cael cryn gyhoeddusrwydd, ac eto dydy hynny ddim yn wir o ran gofal cymdeithasol; does ond rhaid inni feddwl am y neges gyson i ‘Aros gartref, Amddiffyn y GIG, Achub bywydau’.
Ond y cwestiwn ydy beth am amddiffyn y rhai sydd yn gofalu am eraill 24 awr y dydd?
Mae Plaid Cymru eisiau unioni’r cydbwysedd a gweithio tuag at wella pob agwedd o’r Gwasanaeth Gofal, yn bwysicaf drwy integreiddio Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol a fyddai’n cael ei reoli yn ganolog.
Mae’r weledigaeth yn cynnwys cynlluniau ar gyfer dull cenedlaethol a dwyieithog, ynghyd â gweithlu dwyieithog a gyllidir gan drethu cyffredinol, a phwyslais ar ymyrraeth cynnar a gwasanaethau ataliol. Mae angen cydraddoldeb cyflog ac amodau gwaith rhwng staff iechyd a staff gofal cymdeithasol .
Gofalwyr ifanc, fel plant sydd yn gofalu am berthynas sâl, ydy’r gofalwyr mwyaf anweledig yn ein cymdeithas a’r rhai fyddai wedi cael mwy o drafferth nag eraill cyn y pandemig i gael gafael ar help. Hyd yn oed cyn yr effaith ar ein system addysg a achoswyd gan y cyfnodau clo, darganfu’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr nad oedd 39% o ofalwyr ifanc wedi rhoi gwybod i’w hysgolion naill ai oherwydd y pryder o gael eu gwahanu oddi wrth riant neu’r ofn y byddent yn cael eu hystyried yn anaddas ar gyfer y rôl. Mae’n hanfodol bod plant sydd yn ofalwyr yn rhan o‘r darlun.
Yr hyn sydd yn bwysig dros ben i’r miloedd o bobl sydd yn dibynnu ar ofal cymdeithasol ydy’r ffaith bod y system yn galluogi pobl i gael cymaint o annibyniaeth ag y maen nhw ei angen. Ac ni ddylid dibrisio annibyniaeth a rhyddid yn y cyfnod eithriadol o anodd yma.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter