Steffan Webb dwi. Dwi’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ac wedi byw yng Ngogledd Caerdydd ers pedwar deg o flynyddoedd yn Rhiwbeina, Yr Eglwys Newydd, Thornhill, Llaneirwg ac Ystum Taf.
Mae pedwar o blant gyda fi a dau bwynt pump o wyresau. Dwi wedi gweithio ym maes datblygu cymunedol ac addysg gymunedol hyd at 2016. Dwi wedi datblygu cyfres o fentrau iaith gan weithio i rai a gwirfoddoli gydag eraill. Dwi’n mwynhau gwneud gwaith gwirfoddol yn y gymuned. Dwi wedi gwneud gwaith gyda Chynghorau Gwirfoddol Sirol Cymru, a’u systemau grantiau bach, er mwyn datblygu mudiadau eraill. Dwi wedi hyfforddi fel athro ac wedi dysgu Cymraeg i Oedolion yn ogystal a dysgu hanes yn Ysgol Gymraeg Glantaf. Dwi wedi dilyn cwrs cyfieithu ym Mhrifysgol Aberystwyth gan wneud gwaith gwirfoddol i nifer o elusennau. Dwi wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn fy hunan. Dwi wedi arwain Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar wahanol lefelau a chefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth YesCymru. Safais fel Cynghorydd am y tro cyntaf yn 2017 a llwyddo i dreblu plaidlais Plaid Cymru yn Ystum Taf. Dwi eisiau gwneud gwahaniaeth ymarferol i bobl Gogledd Caerdydd ac yn gobeithio gwneud hynny trwy’r etholiad yma. Dwi ar gael trwy [email protected] a @plaidystumtaf ar drydar.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter