Gan Rhys ab Owen - Ein Ymgeisydd ar gyfer Gorllewin Caerdydd
Mae COVID-19 wedi datgelu llawer o wendidau yng Nghymru. Un gwendid o'r fath nad yw, yn fy marn i, yn cael digon o sylw yw system garchardai Cymru.
Cyn y pandemig roeddem yn gwybod mai Cymru sydd â'r boblogaeth uchaf o garcharorion y pen yng Ngorllewin Ewrop.
Roeddem yn gwybod hyn, nid oherwydd ffigurau a gynhyrchwyd gan Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, ond oherwydd ymchwil ddiflino a gynhaliwyd gan Dr Rob Jones o Brifysgol Caerdydd. O ganlyniad i wneud ceisiadau rhyddid gwybodaeth diddiwedd a edrych trwy filoedd o dudalennau o ddata, darganfu pa mor wirioneddol ofnadwy yw'r sefyllfa yng Nghymru ac mae wedi gweithio'n ddiflino i dynnu sylw at y mater. Dim ond oherwydd cwestiynau Seneddol gan Liz Saville Roberts AS y mae'r ffigurau yn ystod y pandemig ar gael.
Rwy'n ei chael hi'n anodd credu nad yw gwybodaeth o'r fath yn cael ei chyhoeddi gan Lywodraeth y DU na Chymru ac nad yw ar gael yn rhwydd. Ni ddylai fod i fyny i unigolion gasglu a dadansoddi data sydd o ddiddordeb cyhoeddus mor sylweddol. Dylai'r data hwn fod ar gael yn hawdd a dylid nodi'r ffigurau ar gyfer Cymru yn glir. Cydnabuwyd hyn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ôl yn 2017 ond nid yw wedi cael ei weithredu o hyd.
Ar 27 Mawrth 2020, 17 diwrnod ar ôl datgan bod COVID-19 yn bandemig byd-eang, datgelodd gwaith Rob fod nifer y bobl a gedwir yng ngharchardai Cymru wedi cyrraedd ei bwynt uchaf erioed. Y gyfradd garcharu yng Nghymru oedd 163 fesul 100,000 o'i gymharu â 139 fesul 100,000 yn Lloegr. Cofnodwyd carchar Abertawe fel y carchar mwyaf gorlawn yng Nghymru a Lloegr. Ym mis Mehefin 2020, roedd Carchar Abertawe yn orlawn o 34% a charchar Caerdydd o 28%.
Yn dilyn hyn, dangosodd data y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod 25% o achosion tebygol o COVID-19 mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr yng ngharchardai Cymru. Carchar Berwyn yn Wrecsam sydd â'r nifer uchaf o achosion Covid-19 gyda charchar Caerdydd yn y trydydd safle.
Er gwaethaf y nifer anghymesur o uchel o achosion yng Nghymru, teitl y strategaeth gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS) yw ' Interim assessment of impact of various population management strategies in prisons in response to Covid-19 pandemic in England’ (fy mhwyslais i). Nid oes un sôn am Iechyd Cyhoeddus Cymru na Llywodraeth Cymru yn y strategaeth. Ar 1 Mai 2020, ailgyhoeddwyd y strategaeth a thynnwyd y data yn ymwneud â Chymru.
Mae hyn yn tynnu sylw at y broblem gyntaf - yr hyn y mae cydweithiwr Rob, yr Athro Richard Wyn Jones, yn ei ddisgrifio fel yr ‘jagged edge’. Y gwrthdaro cymhleth rhwng materion a ddatganolwyd i Senedd Cymru a'r rhai a neilltuwyd i Senedd y DU. Mae cyfiawnder wedi'i gadw yn San Steffan ond mae llawer o feysydd polisi hanfodol a chysylltiedig fel addysg, iechyd a thai wedi'u datganoli i'r Senedd.
Cafodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas, y cyn-Arglwydd Brif Ustus, ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r system gyfiawnder gyfan yng Nghymru. Roeddwn yn ffodus i chwarae rhan wrth ddrafftio’r adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019. Cawsom 200 o gyflwyniadau ysgrifenedig, clywsom dystiolaeth lafar gan 150 o dystion a chynnal 80 sesiwn ymgysylltu.
Roedd y dystiolaeth a glywyd yn tynnu sylw'n glir at y problemau a'r materion sy'n dod i'r amlwg o ganlyniad i'r ‘jagged edge’. Er enghraifft, clywsom nad oedd gan garcharorion o Gymru fynediad at driniaethau iechyd yn y carchar nac ar ôl eu rhyddhau, a bod carcharorion yn aml yn gadael y carchar heb drefniadau tai digonol. Felly pwysleisiodd yr adroddiad bwysigrwydd mabwysiadu dull system gyfan o gyfiawnder yng Nghymru, sy'n cyd-fynd â pholisi iechyd, addysg a chymdeithasol.
Er gwaethaf bod â sylfaen dystiolaeth gref ar gyfer datganoli cyfiawnder i Gymru, ymateb Llywodraeth y DU i argymhellion y Comisiwn oedd bod pobl Cymru yn cael eu gwasanaethu'n well o dan awdurdodaeth Cymru a Lloegr.
Fodd bynnag, mae gweithredoedd Llywodraeth y DU ei hun, yn enwedig mewn perthynas â system garchardai Cymru yn ystod pandemig COVID-19 wedi chwyddo'r ‘jagged edge’ fel y'i gelwir. O dan gynlluniau’r Weinyddiaeth gyfiawnder i ryddhau carcharorion yn gynnar o ganlyniad i’r firws, nid oes unrhyw sôn am yr angen i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddelio ag unrhyw broblemau iechyd nac i awdurdodau lleol Cymru ddelio â materion tai. Hefyd, mae’r ffaith nad yw Iechyd Cyhoeddus Cymru hyd yn oed yn cael ei grybwyll yn strategaeth HMPPS i ddelio â COVID-19 mewn carchardai yn awgrymu nad yw HMPPS mewn sefyllfa i ddelio’n ddigonol â’r ‘jagged edge’.
Yr ail broblem a waethygir gan COVID-19 yw poblogaeth carchar uchel Cymru. O ystyried mai ni sydd â'r boblogaeth fwyaf o garcharorion y pen yng Ngorllewin Ewrop, dau o'r carchardai mwyaf yng Ngorllewin Ewrop a'r carchar mwyaf gorlawn yng Nghymru a Lloegr, does ryfedd fod nifer yr achosion COVID-19 yng ngharchardai Cymru yn anghymesur o uchel . Mae hyn yn ei dro yn rhoi poblogaeth y carchardai, staff carchardai a chyhoedd gyffredinol Cymru mewn mwy o berygl o COVID-19, a'r GIG yng Nghymru dan fwy o straen.
Bydd llawer o farnwyr a bargyfreithwyr yn dweud bod troseddwyr sy'n cael eu hanfon i'r carchar bellach yn cael dedfrydau hirach a bod nifer cynyddol yn cael dedfrydau o garchar am droseddau a fyddai wedi bod yn orchymyn cymunedol o'r blaen. Mae'r cynnydd ym mhoblogaeth carchardai Cymru yn mynd yn groes i dystiolaeth a dderbynnir yn rhyngwladol bod dedfrydau cymunedol cadarn yn sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer adsefydlu yn y rhan fwyaf o achosion. Mae'r dedfrydau hyn nid yn unig yn darparu cosb addas ond maent hefyd yn galluogi gwneud iawn ac adfer.
Yng Ngogledd Iwerddon mae'r gost o gael gorchmynion cymunedol dwys a gwaith atal wedi'i thalu gan ostyngiad yn y rhai sy'n mynd i’r carchar. Er cyd-destun, y boblogaeth garchar ddyddiol ar gyfartaledd yng Ngogledd Iwerddon yn 2018/19 oedd 1,448. Mae hynny'n rhoi cyfradd garcharu o 77 fesul 100,000 iddynt. Pe bai'r gyfradd honno'n cael ei chymhwyso i Gymru byddai 2,687 yn llai o garcharorion yng Nghymru ddiwedd mis Mawrth 2020.
Mae gwleidyddion yn aml yn cefnogi dedfryd o garchar gan eu bod yn credu mai dyna mae dioddefwyr a'r cyhoedd ei eisiau. Fodd bynnag, mae profiad a thystiolaeth yn dangos mai'r hyn y mae dioddefwyr ei eisiau yw gwrandawiad teg, y ddedfryd yn cael ei egluro’n glir iddynt, ac ailsefydlu'r troseddwr y y gymuned.
Mae ymchwil Rob Jones ar COVID-19 yng ngharchardai Cymru yn tanlinellu bodolaeth set o broblemau sydd â gwreiddiau dwfn yng Nghymru - problemau na ellir eu hanwybyddu mwyach. Rhaid ystyried o ddifrif fathau eraill o ddedfrydau sydd â goruchwyliaeth gref i sicrhau tegwch i ddioddefwyr a gwella hyder y cyhoedd yn y system gyfiawnder.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter