Ar Ionawr 28, 2016 mabwysiadodd Cyngor Llafur Caerdydd ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) hynod o ddadleuol yn ffurfiol. Agorodd hyn y llifddorau ar gyfer adeiladu miloedd o dai a gorchuddio ardaloedd mawr o diroedd gwyrdd gyda choncrid yng ngorllewin Caerdydd. O ganlyniad i hynny, rydym wedi gweld tagfeydd traffig difrifol ar Heol Llantrisant, Heol Pant-y-Gored a Heol Isaf.
Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei ddiweddaru, mae’n ofyniad statudol ar y Cyngor i’w adolygu’n llawn o fewn pedair blynedd i’w fabwysiadu. A dyma’r amser i wneud hynny.
Mabwysiadwyd y CDLl mewn byd sydd yn dra gwahanol i’r byd sydd ohoni heddiw. Roedd yn gyfnod cyn Brexit, Covid-19, dirwasgiad tebygol a gwerthfawrogiad o’r newydd o’r gofod gwyrdd o amgylch ein cartrefi. Mae’r amcangyfrif o’r ffigurau twf yn y boblogaeth a ddefnyddiwyd gan y Cyngor yn eu cynllun wedi ei hen wrthod. Yn dilyn y materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori gwreiddiol, ynghyd â chanfyddiadau adolygiad annibynnol penderfynodd y Cyngor leihau eu lefel cyffredinol o dwf yn nifer y tai o 45,5000 i 41,100. Credwn bod angen i’r Cyngor fynd yn llawer ymhellach yn yr hinsawdd presennol.
Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Gyngor Dinas Caerdydd i ymrwymo i ymchwiliad llawn ac annibynnol i amcanestyniad twf poblogaeth fel rhan o’r adolygiad i’r CDLl. Yn ogystal, rhaid mabwysiadu unrhyw argymhellion a wneir yn ystod yr adolygiad, a dylai unrhyw ostyngiad yn y nifer cyffredinol o anheddau ddigwydd yn bennaf ar safleoedd wyrdd.