“Rwyf yn credu’n angerddol y dylai cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol o bobl ifanc yng Nghymru a’r DU allu parhau i fwynhau ac elwa o brofiad Erasmus.”
Dyma eiriau Dr Hywel Ceri Jones,sylfaenydd y cynllun Erasmus byd-eang, cynllun oedd yn galluogi myfyrwyr o’r DU i astudio mewn prifysgolion dramor. Colled arall i Gymru a ddaeth yn sgil Brexit ydy’r ffaith nad ydy’r DU bellach yn rhan o’r cynllun addysgiadol cyfoethog yma a sefydlwyd gan y Cymro blaengar hwn.
Nawr, er bod Cymru a’r Alban yn awyddus i ailymuno gyda chynllun Erasmus a 145 o Aelodau Senedd Ewrop yn eu cefnogi drwy ysgrifennu at Arlywydd y Comisiwn, Ursula von der Leyen, mae’r UE wedi datgan na all cenhedloedd ateb y gofyniad i ailymuno gydag Erasmus, dim ond gwlad yn ei chyfanrwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn yr UE ‘yn seiliedig ar reoliadau Erasmus, dim ond gwledydd all ymuno gyda’r rhaglen’.
Ychwanegodd y llefarydd, “yn ystod y broses o drafodaethau yn anffodus penderfynodd y DU beidio ymuno gyda rhaglen Erasmus ar ôl iddyn nhw adael yr undeb.”
Mae’r penderfyniad i adael Erasmus yn deillio o benderfyniad llywodraeth y DU yn dilyn Brexit, ei fod ‘yn rhy ddrud’ a’r cynllun fydd yn disodli Erasmus fydd cynllun Turing sydd i ddechrau fis Medi eleni. Er bod y llywodraeth yn darparu £100 miiwn o gyllid i’r cynllun, mae’n ateb eilradd i Erasmus. Mae Gogledd Iwerddon wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Iwerddon i alluogi eu myfyrwyr i barhau i astudio dramor, beth bynnag fo’u prif bwnc a dyma un o fanteision enfawr Erasmus, ei fod wedi’i ddylunio i fyfyrwyr o bob disgyblaeth.
Yn sicr mae digon o dystiolaeth i gefnogi manteision dysgu iaith ar weithrediad gwybyddol yr ifanc a’r hen fel ei gilydd, ac mae hyn cyn manteision hir dymor rhyddid i symud a dealltwriaeth diwylliannol. Mae ieithoedd yn allwedd i fyw a gweithio mewn gwahanol wledydd, i ehangu ein byd yn llythrennol.
Roedd yr UE yn anelu at ddod y farchnad sengl fwyaf yn y byd erbyn 1992, yn seiliedig ar y syniad o ‘bedwar rhyddid’, sef rhyddid pobl, cyfalaf, nwyddau a gwasanaethau. Roedd y syniadau yn anelu at gydweithrediad Ewropeaidd a dealltwriaeth rhwng diwylliannau.
Fe fyddai myfyrwyr oedd wedi cael profiad o weithio ac astudio dramor a chaffael un neu ragor o ieithoedd tramor yn weithwyr proffesiynol y dyfodol. Yn gallu trafod busnes rhwng ffiniau yn ddeheuig mewn ffordd a fyddai o fudd i bob un ohonom.
Yn ngeiriau Gustave Flaubert,
‘Mae teithio yn gwneud rhywun yn ddiymhongar… rydych yn sylweddoli mor fychan ydy’ch safle yn y byd.’
Felly mae atal cyfleoedd i genhedlaeth o bobl ifanc yn hynod o drist, yn enwedig o dderbyn effaith dinistriol y pandemig ar addysg dros y flwyddyn ddiwethaf. Gyda chymorth Llywodraeth y DU, mae effaith dwbl Brexit a Covid wedi bwydo fflam yr ofn o unrhyw beth, tramor, a hefyd am nawr, wedi rhoi terfyn ar y berthynas arbennig yr ydym wedi ei mwynhau am genedlaethau gydag Ewrop.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter