FFURF BERYGLUS O DDEMOCRATIAETH

Yn araf, gyda chymorth y ddeddfwriaeth sydd yn cael ei wthio’n gyflym drwy’r Senedd oherwydd y pandemig coronafeirws, mae democratiaeth yn marw. Y Mesur Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd enfawr a fydd yn cael effaith mawr ar yr hawl i brotestio, heb sôn am amharu ar hawliau grwpiau Teithwyr a Roma, ydy’r ychwanegiad diweddaraf at reoli drwy ddyfarnu Llywodraeth y DU. Mae adran arbennig hyd yn oed wedi’i neilltuo i gerfluniau yn sgil proestiadau Black Lives Matter, gan osod dedfrydau o hyd at ddeng mlynedd am halogi cofebau cyhoeddus.

Mae’r Mesur Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd yn ymestyn pwerau’r heddlu i atal protestiadau sydd yn achosi ‘ anniddigrwydd difrifol’ yn ogystal â rhoi cosbau llym i brotestwyr sydd yn achosi ‘annifyrrwch difrifol’.

Mae’r gosb o ddeng mlynedd am ddifrodi cerfluniau yn gwbl anghymesur. Deng mlynedd ydy’r tariff uchaf a roddir am fygythiadau i ladd, gwenwyno heb fod yn farwol ac ymosodiad anweddus.

Ymhellach, pan rydych yn ystyried bod teithiwr Prydeinig meddw wedi’i ddyfarnu’n euog am wneud dŵr dros y Gofeb Rhyfel yn Riga, Latvia lle nad ydy gorfodaeth y gyfraith yn drugarog a dweud y lleiaf, mae’r bwlch rhwng yr hyn sydd yn gymesur a’r hyn sydd yn gwbl hurt ym Mhrydain Newydd Ddewr yn amlwg. Wythnos yn unig o garchar a gafodd y teithiwr o Brydain.

Mae Gracie Bradley, Cyfarwyddwraig dros dro Liberty, wedi mynegi pryderon mawr am y mesur newydd

‘Heb fodloni ar atal protestio yn ystod y pandemig, mae’r Llywodraeth nawr yn defnyddio’r argyfwng iechyd cyhoeddus yma fel esgus i wneud mesurau brys yn barhaol. Mae ei fesur heddlua newydd yn ymosodiad agored ar ryddid sifil sylfaenol.’

Mae Llywodraeth y DU wedi cyfuno cymysgedd wenwynig a dryslyd o gyfraith, cyhoeddiad a chanllaw drwy gydol y llynedd o dan gochl amddiffyn Iechyd Cyhoeddus Wrth edrych yn ôl i’r cyfnod clo cyntaf union flwyddyn yn ôl, gosododd y Prif Weinidog y genedl gyfan o dan ‘arest tŷ’ i bob pwrpas dridiau cyn i’r ddeddf gael ei llunio hyd yn oed. Rhoddodd y pwerau rheoleiddiol olau gwyrdd ar gyfer rheoliadau llym oedd yn newid yn barhaus gan olygu bod craffu seneddol effeithiol wedi’i fwrw o’r neilltu.

Os ystyriwch ei bod wedi cymryd un mlynedd ar ddeg i Lys Hawliau Dynol Ewropeaidd i ddyfarnu bod tactegau ‘kettling’ dadleuol a ddefnyddiwyd gan yr heddlu i reoli’r dyrfa yn Llundain yn 2001 yn gyfreithiol, mae cyflymdra anhygoel y ddeddfwriaeth newydd yn ystod y pandemig yn y DU yn frawychus.

Mae’r cyn Farnwr Y Goruchaf Lys, yr Arglwydd Jonathan Sumption wedi bod yn llafar ei deimladau am y modd mae’r Llywodraeth wedi trafod y pandemig a deddfwriaeth cysylltiedig .

Gan wneud sylwadau am y Mesur Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd, dywedodd yr Arglwydd Sumption

‘Y broblem ydy fframio’r rheoliadau – ac roedd hyn yn benderfyniad bwriadol gan yr Ysgrifennydd Cartref, oedd yn gwrthwynebu gwrthdystiadau a phrotestiadau y llynedd.’

Mae’r Arglwydd Sumption yn ychwanegu

‘y broblem gwirioneddol yma ydy natur y rheoliadau yma lle nad oes eithriad ar gyfer protestiadau cwbl gyfreithlon a heddychlon.’

Mae rheoli drwy orchymyn, sef yr union dacteg a ddefnyddir gan lywodraeth Boris Johnson yn tanseilio rheolaeth y gyfraith. Enghraifft arall o hyn ydy’r bygythiad abswrd i osod dedfryd o ddeng mlynedd os ydy rhywun yn methu datgan gwybodaeth gywir ar ffurflen deithio. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi defnyddio Deddf ‘Forgery and Counterfeiting’ 1981, sydd yn ei gwneud yn ‘ultra vires’ gan nad oes dedfryd o’r fath am ‘drosedd’ mor fychan yn bodoli o dan y ddeddf yma. Yn sicr, ni fyddai’r un llys yn gosod dedfryd o’r fath am fethu datgelu trip i Portugal.

Mae cyn bennaeth adran gyfreithiol y Llywodraeth, Syr Jonathan Jones, a ymddiswyddodd y llynedd dros drafodaethau Brexit pan oedd y Llywodraeth yn gwbl barod i dorri cyfraith rhyngwladol, wedi ychwanegu ei anghytundeb.

Mae Syr Jones yn datgan na ddylai ymadael â llunio cyfraith yn draddodiadol fel sydd wedi dod yn normal dros y flwyddyn ddiwethaf barhau.

‘Mae manylion yno am reswm: y manylion ydy’r gyfraith. Dydy’r gyfraith ddim yn cael ei gosod gan gynhadledd i’r wasg gweinidogion neu ymgyrch gyhoeddusrwydd y llywodraeth – pa mor orfodol neu frawychus ydy’r iaith. Mae’n cael ei gosod gan y ddeddfwriaeth ei hun.’

Mae’r cyfreithiwr hawliau dynol, Adam Wagner, hefyd wedi beirniadu Llywodraeth y DU am ddefnyddio’r pandemig i wthio deddfau llym heb fawr o ystyriaeth, a phrin dim amser i weinidogion ddarllen cannoedd o dudalennau o ddogfennau.

Dywed Wagner bod Boris Johnson yn creu

‘deddfau troseddol cyfnod clo llym, fel rheol ar y funud olaf posibl, ar gyflymdra dwy ddeddf newydd bob wythnos ar gyfartaledd’.

Pryder mwyaf cyfreithwyr ydy mai deddfwriaeth eilaidd fu’r holl ddeddfau newydd yma a wnaethpwyd yn uniongyrchol gan weinidogion, yn hytrach na Deddfau Senedd sydd yn brif ddeddwriaeth.

Rheoli drwy orchymyn, hyd yn oed o dderbyn yr amgylchiadau eithriadol rydym yn byw ynddyn nhw, ydy realiti byw dan unbennaeth ac nid y democratiaeth a arferau fodoli yn y DU. Y pryder ydy, po hiraf y mae Boris Johnson a’i gylch mewnol yn parhau i deyrnasu heb eu herio, ni fydd modd inni droi’n ôl.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Mike Deem
    published this page in Newyddion 2021-04-06 10:19:56 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.