Cefnogwch ymgyrch Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd

Cefnogwch ymgyrch Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd

A chitha?

Mae rhywbeth cyffrous iawn yn digwydd ym Mhlaid Cymru Caerdydd. Mae'r aelodaeth ar ei uchaf erioed, mae ein grŵp o actifyddion yn tyfu bob dydd ac mae'r awyrgylch yn un o obaith. Ers gormod o flynyddoedd roedd y ffocws yma ar yr hyn yr oedd eraill yn ei wneud o'i le, yn hytrach na'r hyn y byddem yn ei wneud yn iawn, ond mae hynny i gyd wedi newid.

Rhys ab Owen, ymgeisydd y Senedd dros Orllewin Caerdydd a dewis rhif un Plaid Cymru ar gyfer rhestr rhanbarth Canol De Cymru fydd yn arwain yr her i Mark Drakeford a goruchafiaeth y Blaid Lafur yn ein Senedd am y ddau ddegawd diwethaf. Bydd tîm ymgyrchu sydd wedi'i drefnu'n dda, wedi'i ariannu'n dda ac sydd wedi’i sefydlu’n dda yn hanfodol i ymgyrch lwyddiannus. Yn realistig Plaid Caerdydd yw'r unig dîm a all wneud hynny.

Yn wahanol i'n cystadleuwyr gwleidyddol yn y brif ffrwd, ni all Plaid Cymru ddibynnu ar roddwyr arian mawr na'r undebau llafur i ariannu ein hymdrechion ymgyrchu. Rydym yn dibynnu ar gyfraniadau gan bobl arferol, sy’n angerddol am ddyfodol ein gwlad.

O ran etholiadau, mae pob ceiniog yn cyfrif a'r mwyaf o roddion y derbyniwn gan ein cefnogwyr,  y gorau y gallwn rhedeg ymgyrch gryfach. Ein nod ar unwaith yw trechu'r brif weinidog a ffurfio llywodraeth nesaf Cymru. Gyda'ch cefnogaeth chi gallwn wneud hynny.

  • Bydd £25 yn ein helpu i argraffu 1,000 o lythyrau at etholwyr.
  • Bydd £50 yn prynu 20 poster gardd.
  • Bydd £250 yn helpu i dalu am 30 diwrnod o hysbysebu ar-lein.
  • Bydd £500 yn prynu digon o gardiau i gwmpasu'r etholaeth.
  • Bydd £750 yn archebu hysbysfwrdd am bythefnos.
  • Bydd £1,000 yn cynhyrchu taflen i gwmpasu Gorllewin Caerdydd i gyd.

Rydym yn gwerthfawrogi bod y flwyddyn diwethaf wedi bod yn un anodd iawn i lawer ohonoch, ond os gallwch chi roi unrhyw beth, beth bynnag fo'r maint, byddwn yn werthfawrogi hynny’n fawr. Hefyd, byddem yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallech rannu ein hapêl gyda ffrindiau, teulu a chefnogwyr drwy eich cyfryngau cymdeithasol. Mae etholiad y Senedd 2021 yn gyfle gwych i Blaid Cymru wirioneddol gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru. Gobeithiwn y byddwch yn ein helpu i gyflwyno'r ymgyrch gryfaf bosibl.

Diolch

O.N. Os byddai'n well gennych gyfrannu mewn ffyrdd eraill, cysylltwch â'n trefnydd Mike [email protected] i gael mwy o wybodaeth am weithgareddau'r ymgyrch yn eich ardal.

Mesur Etholiadau Pleidiau Gwleidyddol a Refferenda 2000
Yn ôl Mesur Etholiadau Pleidiau Gwleidyddol a Refferenda 2000 mae’n rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol yn y DU gan eithrio Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw er mwyn gwneud cyfraniad dros £500.
Os ydych am gyfrannu mwy na £7,500 I’r Blaid, mae dyletswydd arnom, o dan Fesur Etholiadau Pleidiau Gwleidyddol a Refferenda 2000 I rhoi gwybod I’r Comisiwn Etholiadol fyddai’n cyhoeddi’r ffaith eich bod wedi gwneud cyfraniad o dros £7,500. Am fwy o wybodaeth, ewch at http://www.electoralcommission.gov.uk