Mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu ailagor Stryd y Castell yr hydref hwn i gerbydau preifat, sydd, yn ein barn ni, yn gam yn ôl i'r ddinas. Mae'r ddeiseb hon yn galw ar y Cyngor i ailystyried y penderfyniad hwn a chadw Stryd y Castell ar gau i gerbydau preifat.
Mae ailagor Stryd y Castell i geir preifat gan wybod y bydd hyn yn cynyddu allyriadau'n sylweddol yn gam mawr yn ôl o ran lleihau llygredd aer yn y ddinas, yn ogystal â hedfan yn wyneb ymdrechion i ddelio â'r argyfwng hinsawdd. Dylai fod mwy o bwyslais ar wella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy.