Wiliam Rees - Canol Caerdydd

wil.jpg

Wiliam Rees ydw i, ymgeisydd Plaid Cymru yng Nghanol Caerdydd ar gyfer etholiad Senedd 2021. Rwy'n ifanc, yn wladgarol ac eisiau gweld Cymru yn llwyddo y tu allan i afael San Steffan.

Yn 2017, symudais o Aberystwyth i Gaerdydd i astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy'n byw yn yr etholaeth yn Cathays, ac rydw i nawr yn falch o alw Caerdydd yn gartref i mi. Ar ôl cwblhau fy astudiaethau israddedig, o Haf2020 rydw i wedi bod yn gweithio fel ymchwilydd yn Senedd Cymru, yn cefnogi ein Aelodau o’r Senedd.

 

Cefais fy magu mewn teulu Llafur. Gyda fy nhaid yn Gynghorydd Llafur a fy nhad wedi gweithio yn y mudiad Undebau Llafur am y rhan fwyaf o'i oes. Ond pan yn arddegwr mi benderfynais dorri tir newydd. Rwy’n Gymro i’r carn, ac fe sylweddolais nad oedd y Blaid Lafur yn cynrychioli buddiannau pobl Cymru, gyda Llafur yn fodlon gyda methiant safonau Cymru ym meysydd economaidd, addysg ac iechyd.

 

Er gwaethaf i bleidleiswyr yma wrthod y Torïaid, bydd y 5 mlynedd nesaf yn anodd i bobl ledled Caerdydd, wrth i Gymru dderbyn briwsion San Steffan. Gyda thlodi yn codi, rydym yn haeddu cymaint gwell na chamreolaeth gan y Torïaid yn San Steffan, a Llafur ym Mae Caerdydd.

 

Rwy’n ymgyrchydd diflino ac fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg mwyaf Cymru, arweiniais ein hymgyrch i sicrhau swyddog Cymraeg llawn amser yn ein hundeb yr holl ffordd i siambr ein Senedd. Rhwng 2019 a 2020 rwyf hefyd wedi bod yn aelod o Bwyllgor Gwaith Plaid Ifanc yn fy rôl fel Swyddog Cyfathrebu.

 

Boed yn sefyll mewn undod gyda'n ffrindiau Cwrdaidd, neu staff Brifysgol sydd ar streic, ystyriaf fy hun yn unigolyn sy’n daer dros wrthwynebu anghyfiawnder ac anghydraddoldeb. Yng nghynhadledd Plaid Cymru roeddwn yn falch o gyflwyno’n llwyddiannus cynnig Plaid Ifanc ar Brydau Ysgol Am Ddim i Bawb, a basiwyd yn unfrydol gan aelodau. Roeddwn hefyd yn falch iawn o chwarae rhan fach fel rhan o'r tîm a fu'n lobïo’r Llywodraeth yn llwyddiannus i wahardd ffioedd asiantaeth i denantiaid preifat.

 

Rwy’n ymwybodol iawn o’r heriau sy’n ein hwynebu yma yng Nghaerdydd a ledled Cymru, megis yr angen i ddileu tlodi, gwella ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, cynyddu’r nifer o gartrefi sy’n cael ei hadeiladu, cryfhau ein hisadeiledd, a chynyddu safonau addysg.

 

Rwy'n barod i berswadio pleidleiswyr yng Nghanol Caerdydd y byddan nhw'n cael eu gwasanaethu'n well yn y Senedd gan lywodraeth Plaid Cymru; llywodraeth a fydd bob amser yn rhoi budd pobl Cymru yn gyntaf.

 

Gyda'n gilydd, gallwn ennill cychwyn newydd i Ganol Caerdydd.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.