Ashley Drake - Gogledd Caerdydd

Ashley Drake

Ashley Drake yw ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngogledd Caerdydd yn etholiad Senedd 2021.

Cefais fy ngeni yn y Rhondda, ond yr Eglwys Newydd sydd wedi bod yn gartref i mi dros yr 20+ mlynedd diwethaf. Yn ŵr ac yn dad i dwy ferch yn eu harddgeau, dwi wedi gweithio yn y sector preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, ac fe wnaeth fy musnes cyhoeddi llyfrau ddathlu ei benblwydd yn 25 yn ddiweddar. Dwi’n credu y dylen ni wneud popeth y gallwn ni i gefnogi ein cymunedau lleol, ac roedd yn anrhydedd enfawr i gael fy ethol gan rhieni ysgol fy merched, Ysgol Melin Gruffydd i fod yn Lywodraethwr, ac fel Cadeirydd y Llywodraethwyr am gyfnod.


Mae adferu ac ail-adeiladu o’r pandemig, gwynebu heriau gwleidyddol ac economaidd Brexit a brwydro newid hinsawdd yn faterion allweddol i’n Senedd. Mae nhw’n effeithio ni gyd, ac mae rhaid i ni weithio gyda’n gilydd er mwyn gwneud Cymru yn le gwell, iach, a diogel.
Mae rhaid cael ymholiad lawn, annibynnol mewn i delio Llywodraeth Cymru â’r pandemig. Rydym ni’n ddyledus i’r gweithwyr allweddol fe wnaethom ni glapio am, i wneud hyn, yn ogystal a’r 7000+ rydym wedi colli

Yr un peth sy’n uno ni gyd yw ein dymuniad i gael ein trin yn deg, gyda pharch ac urddas, ac mi fydd hwnna wrth graidd fy ngwaith fel Aelod o’r Senedd dros Ogledd Caerdydd e.e.

  • Ar lefel leol, mae 30% o blant Cymru yn byw mewn tlodi, gan gynnwys miloedd yng Ngogledd Caerdydd. Trwy bolisiau ymarferol y blaid, mi fyddwn ni’n gwneud diweddu tlodi plant yn flaenoriaeth.
  • Ar lefel genedlaethol, mae gan Gymru economi gryf (rydym yn fwy cyfoethog y pen na Phortiwgal, er enghraifft), ond ni yw’r tlotaf yng Ngorllewin Ewrop. Bydd buddsoddi mewn technoleg werdd yn creu cyfoeth cynaladwy, a chwarae teg economaidd i bobl Gogledd Caerdydd.
  • Ar lefel byd-eang, mae’r llifogi diweddar mewn tai a strydoedd fawr yng Ngogledd Caerdydd yn arwydd o sut mae newid hinsawdd yn effeithio ni gyd. Dim ond gyda pharch am ein byd naturiol, e.e. atal dinistriad y Dolydd Gogleddol gallwn atal newid hinsawdd, ac mi fydd e yn flaenoriaeth i mi.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Morgan Rogers
    published this page 2021-02-24 16:10:08 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.