Newyddion diweddaraf

Y DIFFEITHDIR
Mae darn o dir llwm o goncrid a chwyn gerllaw Rhodfa’r Gorllewin A48 a gorsaf drennau Parc Waun-gron. Mae’n anodd dirnad bod miliwn o bunnoedd, ac yna £680,000 pellach o arian y trethdalwyr eisoes wedi ei wario ar y diffeithdir yma ers 2014.
Cafodd y miliwn cyntaf ei wario ar uwchraddio’r ganolfan ailgylchu oedd ar y safle cyn i hwnnw gau yn ddisymwth. Defnyddiwyd yr ail swm o arian ar ddatblygu’r safle gyda chynlluniau uchelgeisiol i adeiladu gorsaf fysus a bloc uchel o 50 o fflatiau cyngor. Y bwriad ydy trawsnewid y safle yn gyfnewidfa trafnidiaeth i gysylltu llwybrau metro a bysus ar draws y ddinas. Mae’r metro ei hun yn brosiect gwerth miliynau o bunnoedd.
Ac eto dydy gwaith ddim wedi cychwyn ar y safle, sydd yn parhau’n ddiffeithdir ers i Lywodraeth Cymru gau’r ganolfan ailgylchu dros chwe mlynedd yn ôl. Mae oedi wedi bod o ran dyddiad cwblhau’r orsaf fysus tan o leiaf 2023; mae Cyngor Caerdydd yn honni bod y safle wedi’i halogi gydag olew ac mae angen cyfleuster arbennig i gael gwared ohono, a dyma sydd yn arwain at oedi.
Darllenwch fwy

IAITH A’R GENHEDLAETH GOLL
“Rwyf yn credu’n angerddol y dylai cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol o bobl ifanc yng Nghymru a’r DU allu parhau i fwynhau ac elwa o brofiad Erasmus.”
Dyma eiriau Dr Hywel Ceri Jones,sylfaenydd y cynllun Erasmus byd-eang, cynllun oedd yn galluogi myfyrwyr o’r DU i astudio mewn prifysgolion dramor. Colled arall i Gymru a ddaeth yn sgil Brexit ydy’r ffaith nad ydy’r DU bellach yn rhan o’r cynllun addysgiadol cyfoethog yma a sefydlwyd gan y Cymro blaengar hwn.
Nawr, er bod Cymru a’r Alban yn awyddus i ailymuno gyda chynllun Erasmus a 145 o Aelodau Senedd Ewrop yn eu cefnogi drwy ysgrifennu at Arlywydd y Comisiwn, Ursula von der Leyen, mae’r UE wedi datgan na all cenhedloedd ateb y gofyniad i ailymuno gydag Erasmus, dim ond gwlad yn ei chyfanrwydd.
Darllenwch fwy

Cost Cudd Gofalwyr
Yn ystod y pandemig mae gofalwyr di-dâl yng Nghymru wedi arbed £33 miliwn bod dydd i’r Senedd. Mae tua 370,000 o ofalwyr ar draws Cymru ac eto dydy arbed arian i’r Llywodraeth ddim yn rhywbeth i’w ddathlu wrth i ofalwyr ddod i ben eu tennyn. Dydy nifer o’r rhai sydd yn gofalu am berthynas neu bartner ddim yn ymwybodol o’u hawliau cyfreithiol; mae rhai ohonynt yn blant nad ydynt ar hyn o bryd yn mynychu ysgol; dydy nifer o ofalwyr ddim yn gwybod lle i gael cymorth yn enwedig yn ystod pandemig byd-eang pan mae gwasanaethau iechyd dan bwysau a phan fo cefnogaeth wedi diflannu.
Mae’n argyfwng sydd yn dwysáu ac yn un sydd yn aml yn cael ei anwybyddu wrth i feddyliau droi tuag at gyflwyno brechlynnau a dyfodol economi fregus y DU. Dywedodd Prif Weithredwraig yr elusen Gofalwyr Cymru, Helen Walker: “gyda phob diwrnod sydd yn mynd heibio yn ystod y pandemig yma mae gofalwyr yn cael eu gwthio i’r eithaf gan ddarparu hyd yn oed mwy o ofal i’w hanwyliaid gyda chefnogaeth sydd yn gyflym leihau.”
Darllenwch fwy